Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn edrych ar ansawdd , effeithlonrwydd a diogelwch y gofal a’r cymorth a ddarperir ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru .
Bydd yr arolygiad yn ystyried llwyddiant gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol i sicrhau canlyniadau sy’n bwysig i bobl . Bydd hefyd yn edrych ar y ffactorau sy’n gyrru canlyniadau da i bobl yn ogystal â’r rhwystrau .
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd rhieni / gofalwyr / teuluoedd i fynychu grŵp ffocws bach gyda’r arolygwyr ;
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher 3 o Chwefror am 1.00 yn Llys Deudraeth, Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6BL I gadarnhau eich presenoldeb cysylltwch drwy ffonio 01766 772956, ebostio help@ carersoutreach.org.uk neu ysgrifennwch at Gwyneth Roberts, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, Llys Deudraeth, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6BL
Ceir manylion pellach am yr Arolygiad isod