Cofio am y Ddeddf: Sut i Sefydlu a Rhedeg Gwasanaethau Gofal a Chymorth Cydweithredol
Mae’r gweithdy ymarferol hwn, sy’n rhad ac am ddim, wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n bwriadu sefydlu gwasanaethau gofal a chymorth lles cydweithredol
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn creu cyfleoedd cyffrous o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth lles yng Nghymru. Mae’n galw ar gwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, a grwpiau a arweinir gan ddefnyddwyr i gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal personol a chymorth lles, a hynny am fod y sefydliadau hyn yn ceisio gosod pobl wrth wraidd penderfyniadau am y math o gymorth y gallant ei gael.
Mae’r gweithdy arloesol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n bwriadu sefydlu gwasanaethau gofal a chymorth lles newydd, a anogir gan y Ddeddf. Mae’n darparu trosolwg cynhwysfawr o ran sut y mae datblygu gwasanaeth newydd o syniad cychwynnol.
Trwy gyfuniad o gyflwyniadau, ffilmiau, a gweithgareddau grŵp, bydd y gweithdy yn eich tywys trwy’r camau y mae angen eu cymryd i gadarnhau eich strategaeth fusnes, dewis eich model cyfreithiol a’ch trefniadau llywodraethu, ac achub ar gyfleoedd newydd i dyfu.
Cewch gyfle i gymhwyso eich dysg trwy astudiaeth achos ryngweithiol, lle bydd y penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud yn pennu strategaeth a strwythur cyfreithiol darpar wasanaeth.
Nodau’r gweithdy yw:
- Dangos sut y mae egwyddorion cwmni cydweithredol yn cysylltu â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
- Darparu canllaw ymarferol, cam wrth gam, ar lunio strategaeth fusnes.
- Cyflwyno amrywiaeth o fodelau cyfreithiol a dangos y gwahaniaethau rhyngddynt.
- Darparu trosolwg o gyfrifoldebau llywodraethu a phrosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd.
- Rhoi cyfle i gyfranogwyr brofi a chymhwyso eu dysg.
- Darparu enghreifftiau ymarferol o gyfleoedd i dyfu a datblygu gwasanaethau.
Pryd, ble, a sut i drefnu lle:
Dydd Mawrth 1 Tachwedd
Canolfan Gynadledda Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
10am – 4pm
Bydd cinio’n cael ei ddarparu
I archebu lle, cliciwch yma
Dydd Mercher 2 Tachwedd
Ystafell y Castell, Canolfan Casnewydd, Casnewydd
10am – 4pm
Bydd cinio’n cael ei ddarparu
I archebu lle, cliciwch yma
Dydd Mawrth 8 Tachwedd
Galeri, Caernarfon
10am – 4pm
Bydd cinio’n cael ei ddarparu
I archebu lle, cliciwch yma
Dydd Iau 10 Tachwedd
Hafan Cymru, Caerfyrddin
10am – 4pm
Bydd cinio’n cael ei ddarparu
I archebu lle, cliciwch yma